Mae gwerth siars wedi codi heddiw, ar ôl i arweinwyr Ewrop a chronfa ryngwladol yr IMF sefydlu cronfa i ddiogelu’r euro.

Cynyddodd cyfrannau ym mynegai 100 FTSE o 3%, yn dilyn cynnydd ym marchnadoedd yn Asia. Roedd y mynegai wedi cwympo 2.6% ddydd Gwener ar ôl ei wythnos waethaf ers 18 mis.

Roedd y gwymp yn dilyn argyfwng ariannol Gwlad Groeg, a’r pryder y bydd ei thrafferthion yn effeithio ar wledydd eraill sy’n defnyddio’r euro. Yn ogystal, roedd ansicrwydd yn sgil canlyniad amhendant etholiad cyffredinol gwledydd Prydain.

Ond mae’n ymddangos fod cronfa o €750 biliwn (£650 biliwn) gan yr IMF ac aelodau ardal yr Ewro, ar gyfer cefnogi gwledydd sydd mewn trafferth, wedi lleddfu ofnau’r buddsoddwyr.

Y gred hefyd yw bod adroddiadau cadarnhaol am drafodaethau creu-llywodraeth rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr hefyd wedi lleddfu ychydig ar y sefyllfa.

Llun: Y Ddinas yn Llundain (Gwifren PA)