Mae dyn wedi cael ei arestio ym Mhacistan ar ôl ceisio mynd ar awyren gyda chylched – circuit – trydanol a batris yn sawdl ei esgidiau.
Cafodd Faiz Mohammad ei arestio ym Maes Awyr Rhyngwladol Jinnah yn Karachi nos Sul ar amheuaeth o weithgaredd terfysgol.
Mae swyddogion yn archwilio i weld beth oedd pwrpas y deunyddiau a pham yr oedden nhw wedi cael eu cuddio.
Yn ôl adroddiadau, mae Faiz Mohammad – sy’n gontractwr adeiladu ac oedd am deithio i Muscat yn Oman – yn honni ei fod wedi prynu’r esgidiau mewn marchnad yn Karachi ac nad oedd yn ymwybodol fod y deunyddiau ynddyn nhw.
Mae’n debyg y gall deunyddiau o’r fath gael eu defnyddio i wneud bom ac mae ymosodwyr honedig eraill wedi cuddio deunydd yn eu hesgidiau.
Mae gwasanaethau diogelwch gwledydd y Gorllewin yn rhoi mwy o sylw i Bacistan ers i gysylltiad gael ei wneud rhyngddi a’r ymgais i osod bom yng nghanol Efrog Newydd.