Mae o leiaf naw o bobol wedi marw a 22 wedi eu hanafu yn Baghdad, Irac, heddiw yn dilyn cyfres o ymosodiadau ar draws y ddinas.

Yn ôl adroddiadau, dynion arfog yn saethu o geir oedd yn bennaf gyfrifol am y trais a ddigwyddodd yn oriau mân y bore mewn pum ardal wahanol.

Y gred yw bod o leiaf saith gwahanol ymosodiad wedi digwydd dros gyfnod o tua dwy awr a hanner.

Roedd yr ymosodiadau wedi eu hanelu’n bennaf at aelodau o’r heddlu a’r fyddin, ond fe ffrwydrodd un bom ar ochr ffordd yng ngorllewin Baghdad hefyd, gan ladd dau berson cyffredin.

Does dim gwybodaeth bendant eto ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol.