Fe fydd rhaid i’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ildio rhywfaint er mwyn cael cytundeb, meddai’r cyn Brif Weinidog, John Major.
“Rhaid i bawb sylweddoli y bydd angen cyfaddawd ar y ddwy ochr,” meddai wrth gael ei holi ar raglen radio’r BBC, Today.
Fe rybuddiodd y byddai’n rhaid i’r ddwy blaid anghofio rhai o’u hoff bolisïau er mwyn taro bargen.
“Mae’r lles cenedlaethol yn mynnu bod rhaid cael closio,” meddai’r cyn arweinydd Ceidwadol. “Mae angen llywodraeth sefydlog cyn bo hir.”
Ar ôl dilyn Margareth Thatcher ac ennill etholiad 1992 yn annisgwyl, fe fu John Major yn gweithio gyda mwyafrif bychan ac yna’n arwain llywodraeth leiafrifol.
Bryd hynny, fe fu’n rhaid iddo wobrwyo Gogledd Iwerddon er mwyn cael cefnogaeth gan Unoliaethwyr Ulster ac fe ddioddefodd gyfnod hir o rwygiadau a checru o fewn y Blaid Geidwadol.