Fe fydd arweinydd un o’r undebau llafu mwya’n dod i Gymru heddiw i rybuddio fod llawer o swyddi mewn peryg pan ddaw llywodraeth newydd.

Fe fydd Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Unite, yn rhybuddio y bydd hynny’n digwydd pwy bynnag sy’n rheoli.

“Pan fydd yr holl ddrama a’r sylwebu heibio, fe fydd gweithwyr yn dal i wynebu’r bygythiad mwya’ i’w swyddi a’u safonau byw ers degawdau,” meddai.

Ac yntau’n un o’r prif gystadleuwyr i arwain yr undeb pan ddaw’r swydd yn wag yn ddiweddarach eleni, fe allai Len McCluskey fod yn ffigwr allweddol o ran y berthynas rhwng undebau a llywodraeth.

Fe fydd yn dod i dde Cymru heddiw i ymweld â Magwyr ger Casnewydd ac Abertawe, gan gyhuddo bancwyr a “rheolwyr yr economi” o sicrhau manteision trethi a thaliadau bonws tra bod pobol gyffredin yn dioddef.

“Trefnu trwy’r undebau llafur yw’r unig amddiffyniad i weithwyr yn y sefyllfa giaidd honno,” meddai’ Len McCluskey, ymgeisydd y Chwith Unedig i arwain yr undeb.

“Toriadau mewn swyddi, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yw’r fformiwla sy’n cael ei rhannu gan y rhai sydd am reoli ein dyfodol gwleidyddol.”

Llun: Len McCluyskey (o wefan y Chwith Unedig)