Fe gafodd Morgannwg eu buddugoliaeth gynta’ yn y Cynghrair 40 pelawd wrth guro’r Worcestershire Dragons o bum wiced.

Y ddau fatiwr, Mark Cosgrove a Gareth Rees, oedd yr arwyr wrth i’r Cymry geisio gwella ar record wael y tymor diwetha’ mewn gemau byr.

Sir Caerwrangon oedd wedi batio gynta’ yn Stadiwm Swalec gan orffen ar 256 am 6, diolch yn benna’ i 110 gan Phil Jaques.

Fe ddechreuodd y bowlwyr cyflym, Huw Waters a James Harris, yn dda gyda nifer o belawdau tynn ac fe barhaodd hynny gyda’r troellwyr Dean Cosker a Mark Cosgrove.

Er hynny, tua chanol a diwedd y batiad, fe sgoriodd yr ymwelwyr yn drwm.

Rasio

Fe rasiodd Morgannwg i sgôr da ar ddechrau eu batiad nhwthau – 50 mewn wyth pelawd a 100 mewn 18.

Ond, ar ôl i Cosgrove fynd am 86, pan oedd y sgôr yn 142, fe gafodd Morgannwg gyfnod sigledig. Gareth Rees oedd yr ateb, yn cyrraedd ei 50 mewn 34 pelen ac yn gorffen ar 51 heb fod allan.

Llun: Un o’r arwyr, Mark Cosgrove