Gleision 13 Munster 12
Fe fydd Gleision Caerdydd yn gallu troi eu sylw’n llwyr ar ennill Cwpan Her Amlin, ar ôl colli cyfle i gyrraedd rowndiau cwpan Cynghrair Magners.
Er iddyn nhw guro’r pencampwyr, Munster, doedd hynny ddim yn ddigon i fynd heibio iddyn nhw i’r pedwerydd safle a chyfle i gystadlu ymhellach.
Wedi’r gêm, doedd y Gleision ddim yn rhy siomedig gan edrych ymlaen at rown derfynol yr Amlin yn erbyn Toulon ymhen pythefnos.
Roedd y Gleision wedi mynd ar y blaen yn yr hanner cynta’ ar ôl unig gais y gêm trwy’r canolwr, Jamie Roberts, ond fe dagodd Munster y gêm yn yr ail hanner.
Methu â manteisio
Fe fethodd y Gleision â manteisio ar gyfle pan oedd prop Munster, Marcus Horan, wedi ei anfon i’r gell gosb.
Tan y munudau ola’, y Gwyddelod oedd ar y blaen o 12-10, cyn i’r asgellwr Leigh Halfpenny gicio gôl gosb i’r Gleision.
Wedi’r gêm, fe ddywedodd Jamie Roberts eu bod wedi nod yn trïo’n rhy galed yn yr hanner cynta’ ac wedi gwneud gormod o gamgymeriadau.
Llun: Jamie Roberts, yr unig gais