Bu farw cyn prifathro o Lanuwchllyn wrth ddringo Eryri dros y penwythnos.
Mae’n ymddangos bod Llew ap Gwent wedi cwympo tua 300 troedfedd wrth ddringo gyda Chlwb Mynydda Cymru yng Nghwm Cneifion brynhawn ddydd Sadwrn.
Cafodd ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle cadarnhawyd ei fod wedi marw.
Roedd Llew ap Gwent, a fyddai wedi cael ei ben-blwydd yn 61 oed ddydd Sul, yn arfer bod yn brifathro Ysgol y Parc, ger y Bala.
Roedd hefyd wedi bod yn glerc Cyngor Cymunedol Llanuwchllyn ac yn gyfarwyddwr ar y mudiad cymunedol, Antur Penllyn.
Marwolaeth gynta’r Clwb
Mae’n debyg mai dyma’r tro cynta’ i aelod o’r Clwb Mynydda farw yn ystod un o’r teithiau – roedd Llew ap Gwent yn rhan o daith ‘sgramblo’ ar y Glyderau, rhwng dyffrynnoedd Peris ac Ogwen.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ac mae disgwyl y bydd y Clwb yn gwneud datganiad swyddogol yn ddiweddarach heddiw.
Mae cadeirydd Clwb Mynydda Cymru, Morfudd Thomas, wedi dweud wrth bapur lleol y Daily Post bod Llew ap Gwent yn ddringwr mynydd profiadol, ei fod yn gwmni da bob tro, ac yn gyfaill gwirioneddol.
“Bydd yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei adnabod,” meddai.
Llun: Uwchben Cwn Cneifion, rhwng y ddwy Glyder (Eric Jones Trwydded CCA 2.o)