Croesgadwyr Celtaidd 34 Dreigiau Catalanaidd 35
Hanner cyntaf gwael a wnaeth i’r Croesgadwyr Celtaidd golli o bwynt mewn gêm gyffrous yng Nghwpan Her Carnegie.
Dyna farn eu hyfforddwr, Brian Noble, wrth iddyn nhw gael eu curo o 35-34 gan y Dreigiau Catalanaidd, a hynny gyda gôl adlam yn y munud ola’.
Dim ond 27 eiliad oedd ar y cloc, pan lwyddodd maswr y Catalaniaid, Thomas Bosc, gydag ail gynnig am y pyst.
Cyn hynny, roedd y Cymry wedi ymladd yn ôl a dod yn gyfartal gyda deng munud ar ôl yn y gêm pumed rownd yn Wrecsam.
Yn ôl Noble, yn ystod y munudau ola’, roedden nhw wedi anghofio beth ddaeth â nhw’n ôl i mewn i’r gêm a throi’n ôl at arferion gwael.
Ond yr hanner cynta’ oedd y broblem fwya’, meddai, a’r clwb yn diodde’ ar ôl curo Bradford o 19-0 yn eu gêm gynt.
“Roedden ni braidd yn feddal yn yr hanner cynta’,” meddai Noble. “Roedden ni mewn cariad efo ni ein hunain ar ôl yr wythnos gynt.”
Cais arall i Sammut
Un darn o newyddion da i’r Crusaders oedd cais arall i Jarrod Sammut, yn ei ail gêm a’i ymddangosiad cynta’ ar y Cae Ras.
Roedd y Catalaniaid wedi dweud ymlaen llaw bod y gêm gwpan yn allweddol iddyn nhw ar ôl dechrau gwael yn y cynghrair. Roedden nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2007.
Fe fyddan nhw bellach yn wynebu Batley neu Halifax yn y rownd nesa’.
Llun: Brian Noble (o wefan y Croesgadwyr)