Fe gadarnhaodd arweinydd Plaid Cymru eu bod nhw’n barod i gymryd rhan mewn trafodaethau i greu Llywodraeth newydd yn San Steffan.

“Cynghrair blaengar” o bleidiau, gan gynnwys y pleidiau cenedlaethol, yw’r unig ddewis arall heblaw cynghrair rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Cymdeithasol, meddai Ieuan Wyn Jones.

“O feddwl am wleidyddiaeth ymarferol, dyna’r unig ddewis realistig arall,” meddai wrth Radio Wales.

Fe fyddai hynny’n golygu cytundeb rhwng y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r SNP.

Fe fyddai bwriad y Ceidwadwyr i ddechrau torri ar unwaith ar wario cyhoeddus yn ei gwneud hi’n anodd iawn i Blaid Cymru ddod i gytundeb gyda nhw, yn ôl Ieuan Wyn Jones.

Unig nod Plaid Cymru, meddai, fyddai sicrhau’r fargen orau i Gymru ac roedden nhw ar gael i drafod cytundeb petai trafodaethau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid yn methu.