Mae adroddiadau fod nifer o weithwyr achub ymhlith tua 30 o bobol sydd wedi marw yn dilyn dau ffrwydrad ym mhwll glo mwyaf Rwsia dros y penwythnos.
Yn ôl yr adroddiadau, roedd y gweithwyr achub wedi mynd i mewn i bwll Raspadskaya yn Siberia yn dilyn y ffrwydrad cyntaf.
Mae mwy o weithwyr achub wedi llwyddo i fynd i mewn i rannau o’r pwll erbyn hyn, ond mae’r gwaith yn cael ei lesteirio gan y perygl o ffrwydrad arall oherwydd nwy methan.
Roedd yr ail ffrwydrad wedi dinistrio’r brif siafft oedd yn cludo awyr iach i mewn i’r pwll.
Y gred yw bod tua 60 o bobol yn gaeth yn y pwll.
Llun: Olion y ffrwydrad ar yr wyneb (AP Photo)