Mae dau ŵr lleol yn cael eu holi ar ôl marwolaeth dyn ifanc yn Sir y Fflint yn oriau mân bore Sul.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd eu bod wedi arestio’r ddau yn ystod y dydd ddoe ar amheuaeth o lofruddio.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghanol tref Bwcle ger yr Wyddgrug.
Am gyfnod, roedd rhan o stryd, Precinct Way, wedi ei chau, wrth i arbenigwyr gynnal ymchwiliad fforensig.
Fe gafodd Peter Williams Jones, 24 oed, ei gymryd i adran frys yn yr ysbyty yng Nghaer ond fe fu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn ardal Precinct Way o amgylch un o’r gloch fore Sul.
Y gred yw bod y ddau ddyn sy’n cael eu holi hefyd yn eu hugeiniau.