Mae’r Undeb Ewropeaidd a chronfa ryngwladol yr IMF wedi cytuno ar becyn gwerth €750 biliwn i geisio achub yr euro.

Fe fydd y gronfa ar gael i helpu gwledydd o fewn y system sy’n mynd i drafferthion – mae Gwlad Groeg eisoes wedi gorfod cael cymorth brys ac mae gwledydd eraill fel Sbaen a Phortiwgal yn wynebu problemau i godi arian ar y marchnadoedd rhyngwladol.

Mae banciau cenedlaethol gwledydd eraill hefyd yn helpu yn y cefndir trwy dderbyn doleri er mwyn llacio’r pwysau ar y drefn ariannol ryngwladol.

Roedd yna gyfarfod am fwy nag 11 awr ddoe rhwng gweinidogion ariannol gwledydd yr Undeb cyn cyhoeddi’r cytundeb anferth, a fyddai’n ddigon i gynnal anghenion benthyg sawl un o wledydd yr euro am gyfnodau sylweddol.

Wedi’r cyfarfod, fe ddywedodd Comisiynydd Ariannol yr Undeb, Olli Rehn, y bydden nhw’n amddiffyn yr euro “doed a ddêl”.

Yr Undeb fydd yn cyfrannu €500 biliwn a’r IMF yn rhoi €250 biliwn arall a, thros nos, roedd yna arwyddion bod y cynllun yn gweithio, gyda gwerth yr euro yn codi rhywfaint a’r marchnadoedd stoc hefyd yn ymateb.

Er nad yw gwledydd Prydain yn rhan o’r euro, roedd y Canghellor, Alistair Darling, yn rhan o’r trafodaethau ddoe. Ond mae’r Llywodraeth yn dweud mai rhan fach sydd gan wledydd Prydain yn y cytundeb.

Llun: Olli Rehn ac Elena Salgado, gweinidog economaidd Sbaen (AP Photo)