Mae Ieuanair yn ailddechrau hedfan heddiw, wrth i gwmni Manx 2 ddechrau ar gytundeb tros dro i gynnal y gwasanaeth am saith mis.

Y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, fydd un o’r teithwyr cyntaf wrth i’r awyrennau ddechrau teithio eto rhwng maes awyr Y Fali yn y Gogledd a maes awyr Caerdydd.

Ef hefyd yw un o gefnogwyr amlyca’r gwasanaeth gan ddweud bod y cysylltiad awyr yn bwysig i economi’r Gogledd.

I’r wal

Roedd y cwmni awyrennau cynharach, Highland Airways, wedi mynd i’r wal a, hyd yn hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi methu â chael neb i gymryd y cytundeb yn y tymor hir.

Fe fyddan nhw’n hysbysebu hwnnw unwaith eto cyn hir; yn y cyfamser, fe fydd Manx 2 yn cynnal teithiau ddwywaith y dydd yn ôl ac ymlaen.

O dan y cytundeb cynt, roedd y Llywodraeth yn talu tua £800,000 i gefnogi’r gwasanaeth.