Fe fydd llygaid pawb ar y marchnadoedd arian heddiw wrth i dimau trafod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol barhau i drafod heddiw.

Os bydd y marchnadoedd yn cwympo, fe fydd yn cynyddu’r pwysau arnyn nhw i gytuno’n fuan ar greu llywodraeth newydd.

Roedd yna ail gyfarfod neithiwr rhwng y ddau arweinydd, David Cameron a Nick Clegg, ar ôl i’r ddau dîm fod yn trafod am tua chwech awr a hanner.

Mewn datganiadau hynod o debyg, fe gadarnhaodd llefarwyr ar ran y ddwy blaid eu bod bellach yn “trafod cynigion pendant”.

Cynnig gan Brown

Ond roedd yna gyfarfod annisgwyl hefyd rhwng y Prif Weinidog a Nick Clegg. Er bod Gordon Brown wedi cynnig dewis arall i arweinydd y Democratiaid, dim ond trafod y datblygiadau diweddara’ a wnaethon nhw, meddai llefarwyr.

Fe sleifiodd y Prif Weinidog allan o rif 10 Downing Street i gwrdd â Nick Clegg yn y Swyddfa Dramor, gan awgrymu bod cytundeb rhyngddyn nhw yn fwy derbyniol.

Mae Plaid Cymru a’r SNP hefyd wedi awgrymu “clymblaid enfys”, gyda’r ddwy blaid genedlaethol yn ymuno gyda Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nesu at ddealltwriaeth

Ond, o ran yr arweinwyr o leia’, mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid yn nesu at ddealltwriaeth, efallai i gael clymblaid lawn neu, yn fwy tebyg, i gael cytundeb tymor hir i gynnal llywodraeth sefydlog.

Fe fydd y trafodaethau’n ail-ddechrau heddiw – yn ôl prif drafodwr y Ceidwadwyr, cyn Ysgrifennydd Cymru, William Hague, yn dweud bod y cyfarfod ddoe yn “gynhyrchiol a chadarnhaol iawn”.

Fe fydd gan y ddau arweinydd gyfarfodydd anodd heddiw – fe fydd Nick Clegg yn cwrdd â’i aelodau seneddol amser cinio a David Cameron yn annerch cyfarfod o holl ASau’r Ceidwadwyr heno.

Rhai’n anniddig

Mae rhai ar y ddwy ochr yn anniddig ynglŷn â chytundeb, yn enwedig tros bynciau fel Ewrop a phleidleisio cyfrannol.

O ran y Democratiaid, mae yna bwysau ar Nick Clegg i beidio ag ildio o gwbl ar ei alwadau am newid y drefn etholiadau, ond mae llawer o Geidwadwyr yn llwyr yn erbyn hynny.

Un cyfaddawd sydd yn y gwynt yw comisiwn i ystyried pob math o syniadau a rhoi pleidlais rydd ar y mater i ASau Ceidwadol.

Llun: William Hague a darpar Ganghellor y Ceidwadwyr, George Osborne, yn gadael y trafodaethau ddoe (Gwifren PA)