Mae pump o brotestwyr Cwrdaidd wedi cael eu crogi yn Iran, ar ôl iddyn nhw gael eu canfod yn euog o fod yn aelodau o grwpiau gwrthwynebwyr arfog, ac o ffrwydro bomiau.

Mae adroddiadau o Iran yn cadarnhau bod y pump, sy’n cynnwys un wraig, wedi cael eu crogi yng ngharchar Evin, i’r gogledd o’r brifddinas, Tehran.

Fe gafodd y pump eu dedfrydu i farwolaeth yn 2008, wedi eu cael yn euog o ‘Moharebeh’ – term sy’n cael ei ddefnyddio yn Iran i ddisgrifio trosedd fawr iawn yn erbyn Islam a’r wladwriaeth.

Grwp gwrthwynebwyr

Roedd y pump – Farzad Kamangar, Ali Heidarian, Farhad Vakili, Shirin Elmholi, a Mahdi Islamian – yn aelodau o’r grwp Cwrdaidd, PEJAK.

Mae PEJAK yn honni ei fod yn brwydro tros hawliau cenedl y Cwrdiaid, a dyma adain Iranaidd Plaid Gweithwyr Cwrsitan, neu’r PKK, sy’n brwydro tros annibyniaeth yn ne-ddwyrain Twrci.