Mae arbenigwyr wrthi’n asesu’r difrod, wedi tân mewn ffatri awyrennau yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fu cyfanswm o 85 o ymladdwyr tân yn brwydro’r fflamau yn ffatri Shorts yn nwyrain Belffast yn ystod oriau mân bore heddiw.

Fe alwyd arbenigwyr cemegol o gwmni Bombardier Aerospace, sydd biau Shorts, wedi i benaethiaid y gwasanaeth tân ddechrau poeni am yr effaith y gallai fflamau ei gael ar ddeunyddiau y tu mewn i’r adeilad.

Does dim cadarnhad eto ynglyn â sut y dechreuodd y tân.

Neb wedi ei anafu

“Chafodd neb ei anafu, a doedd neb yn gweithio yn ardal y tân ar y pryd,” meddai llefarydd ar ran Bombardier Aerospace. “Aelodau o staff cynnal a chadw ddaeth o hyd i’r tân.

“Fe ddaeth y gwasanaethau brys yn brydlon iawn, ac fe gafodd y adeilad ei wagio.”

“Fe gynheuodd y tân yn yr ardal lle mae peiriannau newydd wedi cael eu gosod, ond heb ddechrau cael eu defnyddio eto. Fe fydd archwiliad llawn o’r ardal honno’n digwydd yn fuan, unwaith y byddwn ni’n clywed ei bod hi’n ddiogel mynd yno.”