Mae milwyr Prydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi gorymdeithio ar draws y Sgwar Coch ym Mosgow yn ystod digwyddiadau i nodi 65 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.
Ond, tra bod Diwrnod Buddugoliaeth yn Rwsia’n cael ei ddefnyddio fel arfer i ddangos holl rym ei byddin, roedd araith gan yr Arlywydd yn taro tant gwahanol heddiw.
“Heddiw, yn ystod yr orymdaith ddwys hon, mae milwyr Rwsia a’r cynghreiriaid a ddaeth at ei gilydd i drechu Hitler, yn gorymdeithio gyda’i gilydd,” meddai Dmitry Medvedev.
“Dim ond wrth weithio gyda’n gilydd y gallwn ni drechu y pethau sy’n ein bygwth ni heddiw. A dim ond fel cymdogion da i’n gilydd y medrwn ni ddatrys problemau sy’n bygwth heddwch a diogelwch y byd.
“Dylem wneud hyn er mwyn gwneud yn siwr fod daioni yn drech na drygioni ar draws y byd, er mwyn rhyddid a hapusrwydd cenedlaethau’r dyfodol.”
Y byd i gyd
Ymysg arweinwyr byd oedd yn bresennol ym Mosgow roedd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel; Hu Jintao o China; Arlywydd Isral, Shimon Peres; ac Arlywydd dros-dro Pwyl, Bronislaw Komorowski.
Roedd disgwyl y byddai Silvio Berlusconi o’r Eidal a Nicolas Sarkozy o Ffrainc yn bresennol, ond fe arhoson nhw gartref er mwyn bod ar gael i drafod creisis ariannol Ewrop.