Mae disgwyl i ddarlun o drên gan un o actorion ffilmiau Harry Potter, gael ei werthu am £4,000 mewn ocsiwn yn Glasgow yr wythnos hon.

Fe gafodd y darlun ei gwblhau gan yr actor a’r digrifwr, Robbie Coltrane, rywbryd yn y 1970au – a hynny ar ôl iddo dderbyn comisiwn tra’n astudio yn Ysgol Gelf Glasgow.

Roedd hynny cyn iddo wneud enw iddo’i hun fel y cymeriad ‘Hagrid’ yn ffilmiau Harry Potter, neu fel y seicolegydd troseddol Fitz yn y gyfres deledu, Cracker.

Dyma’r darlun cyntaf gan Robbie Coltrane i fynd dan y morthwyl, ac mae’n cael ei werthu gan werthwr preifat.