Bu farw gwr yn ei 60au ar un o fynyddoedd Eryri brynhawn ddoe.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth y dringwr a syrthiodd fwy na 300 troedfedd yng Nghwm Cneifion, Dyffryn Ogwen.

Fe gafodd y gwr ei gludo I Ysbyty Gwynedd, Bangor gan hofrennydd yr awyrlu o’r Fali, ond fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw.