Mae disgwyl i’r llwch folcanig o Wlad yr Iâ achosi mwy o anrhefn mewn meysydd awyr yn Ewrop heddiw. Mae disgwyl i’r cwmwl nadreddu ei ffordd uwchben Ffrainc, y Swisdir a gogledd yr Eidal.

Yn Genefa, mae dwsinau o ehediadau ar eu ffordd i wledydd Prydain, Portiwgal, Sbaen, Ffrainc, Iwerddon a Hwngari wedi eu canslo.

Mae maes awyr Zurich hefyd wedi canslo awyrennau i Washington, Dulyn a Porto.

Maes awyr Genefa ydi un o’r prif feysydd ar gyfer cwmni easyJet, sydd wedi rhybuddio y bydd mwy o oedi cyn gallu hedfan i’r Swisdir, de a chanoldir Ffrainc, gogledd yr Eidal a gogledd Portiwgal.

Y rhagolygon

Mae darogan y bydd y llwch yn symud i gyfeiriad de’r Almaen, Gweriniaeth Tsiec ac Awstria erbyn heno.

Mae meysydd awyr gogledd yr Eidal, yn ogystal â Porto, La Coruna, Vigo a Santiago yn Sbaen a Phortiwgal.

Mae maes awyr Brwsel wedi rhestru o leia’ chwe taith na fydd yn digwydd i Ogledd America.