Mae bron i dri chwarter pobol gwledydd Prydain wedi ystyried symud i fyw i wlad arall eleni, yn ôl canlyniadau ymchwil sydd wedi eu rhyddhau heddiw.

Y prif resymau tros fod eisiau dechrau o’r newydd mewn gwlad dramor, ydi cyflwr yr economi (31%), a dim gobaith o gael swydd (23%).

Mae tua un o bob deg person (12%) yn dweud mai newid agwedd a byw bywyd mwy hamddenol, sy’n apelio atyn nhw.


Awstralia a Chanada

Mae un o bob tri o’r rheiny gafodd eu holi (33%) yn dweud eu bod nhw’n ystyried symud i Awstralia, a chwarter (26%) yn dweud mai Canada oedd eu gwlad ddelfrydol.