Mae arweinwyr undeb wedi rhybuddio y gallai gweithwyr trenau tanddaearol Llundain fynd ar streic, os na fydd swyddi’n cael eu diogelu.
Maen nhw’n poeni wedi i gynllun ariannol preifat ddod ]i ben, ac i’r cyfrifoldeb am waith cynnal a chadw gael ei throsglwyddo’n ôl i’r sector cyhoeddus.
Fe gyhoeddodd Transport for London (TfL) yn hwyr nos Wener ei fod yn hyderus o godi digon o arian er mwyn cynnal gwasanaeth trenau tanddaearol effeithiol, heb fod yn dreth ar y llywodraeth, y trethdalwyr, na theithwyr.
Fe fydd y drefn newydd o ariannu’r sustem drafnidiaeth yn golygu “adolygu” cynllun i gau ambell linell, a cael gwell trefn y Northern Line, yn ogystal â gwella llinell Jubilee.
Pryderon
Mae undeb trafnidiaeth yr RMT wedi cadarnhau y bydd yn gofyn barn aelodau, a hynny oherwydd eu bod nhw’n pryderu ynglyn â phryderon tros swyddi ac amodau gwaith.
“Rydan ni’n dal i chwilio am sicrwydd ynglyn â swyddi ac amodau gwaith, ac rydan ni eisiau gwybod sut mae ein haelodau yn teimlo,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Bob Crow.
“Mae lot o ansicrwydd ynglyn â dyfodol ein haelodau.”