Os bydd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dod i gytundeb ynglyn â’r ffordd ymlaen at lywodraeth glymblaid, fe fydd y blaid Lafur yn ei thynnu ei hun at ei gilydd yn llawn urddas, meddai David Blunkett.

Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Cartref, a’r Aelod Seneddol tros Sheffield Brightside a Hillsborough, mae’n debyg y bydd arweinwyr y ddwy blaid arall, David Cameron a Nick Clegg, yn llwyddo i ddod i ryw fath o gytundeb.

Ond bryd hynny, fe fydd yn rhaid i Gordon Brown, arweinydd Llafur, “wneud y peth iawn”, meddai ar raglen Sunday Live ar Sky News.

Ta-ta, Brown?

“Mae’n rhaid ail-ffurfio, adnewyddu, ac edrych i’r dyfodol,” meddai David Blunkett.

“Dw i’n meddwl y gallwn ni wneud hynny gydag urddas… a dw i’n ymddiried yn Gordon Brown i wneud y peth iawn.”