Fe fydd arweinwyr gweithwyr caban British Airways yn ystyried galw mwy o streiciau fory, wedi iddyn nhw wrthod y ddêl ddiweddara’ a allai ddod â’r ffrae ddiwydiannol i ben.
Mae 81% o aelodau undeb Unite wedi pleidleisio tros wrthod cynnig diweddara’ BA i ddod â’r anghydfod blwyddyn o hyd i ben.
Ond mae BA wedi cyhuddo Unite o beidio â bod eisiau derbyn y cynnig “teg iawn” sydd, medden nhw, yn ateb pob un o’r pryderon sydd wedi codi yn ystod y 14 mis diwetha’.
Meddai BA…
“Mae British Airways wedi’i siomi, ond ddim wedi’i synnu, fod Unite wedi creu’r ymateb yma gan eu haelodau. Mae’n gynnig teg iawn…
“Rydan ni’n annog Unite i roi diwedd ar yr anghydfod diangen hwn, ac i ganolbwyntio ar yr hyn sydd o fudd i’r aelodau. Fedr dim byd positif ddod o gynnal mwy o streiciau.
“Dydi hi ddim yn rhy hwyr i Unite roi’r gorau i hyn a chefnogi ein cynllun ni, sy’n trio dod â’r cwmni allan o dwy flynedd o golledion. Rydan ni eisiau dychwelyd i lewyrch a sicrwydd swyddi i bawb.”
Y bleidlais
Fe gymrodd mwy na 7,000 o aelodau undeb ran yn y bleidlais ddiweddaraf hon, gydag ychydig dros 5,600 yn gwrthod y ddêl oedd yn cael ei chynnig gan BA.
Mae swyddogion undeb yn dweud fod y bleidlais yn dangos “cryfder a dewrder” y gweithwyr, er eu bod nhw’n cael eu bygwth â cholli gwaith a thoriadau eraill.