Mae Prif Weinidog Gwlad Thai wedi pledio ar brotestwyr i roi’r gorau i gwffio yn y strydoedd – a hynny wedi dau fis o orymdeithio a thywallt gwaed go iawn sydd wedi dod â’r brifddinas, Bangkok, i stop.

Fe gafodd unrhyw obaith y byddai protestiadau y Crysau Cochion yn dod i ben yn heddychlon, eu chwalu nos Wener, pan laddwyd dau blismon a phan anafwyd 13 o bobol.

Mae’r protestiadau, sydd wedi eu canola ar ardal ariannog y brifddinas, wedi bod ar gau ers wythnosau, gyda ffenestri canolfannau siopau a gwestai 5-seren wedi eu gorchuddio.

Cynllun

Mae’r Prif Weinidog, Abhisit Vejjajiva, wedi bod yn pledio ar deledu’r wlad heddiw, yn gobeithio y bydd protestwyr yn fodlon derbyn cynllun i ddod â’r gwrthdaro i ben. Mae ganddo bum pwynt yn y cynllun, sy’n cynnwys cynnal etholiadau newydd ar Dachwedd 14.

“Peidiwch ag oedi,” meddai. “Os ydach chi’n cytun gyda’r cynllun hwn, rhowch y gorau i brotestio ac mi ddechreuwn ni weithio efo’n gilydd.”

Fe ddisgrifiodd y rhai hynny sy’n annog gwrthdaro a thywallt gwaed fel “terfysgwyr” anfaddeuol.

Fe addawod hefyd i daclo rhai o’r pethau sy’n poeni’r protestwyr – yn cynnwys tlodi gwledig ac anghyfiawnder cymdeithasol.

Y Crysau Cochion

Mae’r protestwyr, sy’n gwrthod gadael ardal y brotest, wedi addo y byddan nhw’n cyhoeddi eu cynllun eu hunain o fewn y pum diwrnod nesa’, gan addo y bydd y cynllun yn un hyblyg ac yn agored i’w drafod.

Mae Nattawut Saikua, un o arweinwyr y brotest, yn awyddus i ddod i gytundeb ynglyn â’r broses drafod erbyn dydd Sadwrn nesa’, 15 Mai.