Mae’r wasg yn China yn adrodd am ddyn sydd wedi trywanu wyth o bobol yn farw – gan gynnwys ei fam, ei wraig a’i ferch.

Yn ôl asiantaeth newyddion Xinhua, mae heddlu wedi cadarnhau i’r llofruddiaethau ddigwydd yn ne-ddwyrain rhanbarth Jiangxi, a bod pedwar o gymdogion y gwr, yn ogystal â gweithiwr o dramor, wedi eu lladd.

Dal y dyn

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y gwr sy’n cael ei amau o’r trywanu, Zhou Yezhong, ei ddal o fewn dwy awr i’r digwyddiadau erchyll.

Pwysau

Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o ddigwyddiadau tebyg i daro China yn ddiweddar. Mae sawl achos o ladd torfol wedi eu hadrodd, gan gynnwys ymosodiadau ar ysgolion.

Mae rhai’n dweud mai afiechyd meddwl yr ymosodwr oedd yn gyfrifol am y marwolaethau diweddara’ yma, ac mae digwyddiadau eraill yn digwydd o ganlyniad i’r pwysau ar bobol yn sgîl y newidiadau sydyn sy’n digwydd i’r gymdeithas.