Mae taflegau Americanaidd wedi lladd deg o bobol mewn ardal wrthryfelgar ym Mhacistan heddiw.
Yr wythnos ddiwetha’, fe geisiodd terfysgwr ffrwydro bom car yn Times Square, Efrog Newydd, ac fe roddodd y digwyddiad hwnnw fwy o bwysau ar Bacistan i drio rheoli gwrthryfelwyr Al-Qaida a’r Taliban sy’n llechu ar y ffin rhwng y wlad ac Affganistan.
Dyna’r union ardal yr oedd taflegrau heddiw’n ei thargedu.
Clinton – “cydweithrediad”
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, wedi dweud fod Washington yn disgwyl mwy o gydweithrediad gan Bacistan wrth geisio llorio’r gwrthryfelwyr.
Mae hi hefyd wedi rhybuddio y bydd yna “ganlyniadau difrifol” pe bai modd olrhain unrhyw ymosodiad ar America i Bacistan.
Mae ei sylwadau’n arwyddocaol, oherwydd maen nhw’n dangos newid agwedd gyhoeddus America tuag at Bacistan. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae America wedi canmol Pacistan, yn hytrach na’i beirniadu.