Mae dau ffrwydriad wedi lladd 11 o weithwyr a lladd 41 o bobol eraill yng ngwaith glo mwya’ Rwsia. Mae degau o bobol eraill yn parhau’n sownd y tu mewn i’r lofa.
Fe glywyd y ffrwydriad cynta’ yng ngwaith glo Raspadskava yng ngorllewin Siberia ychydig cyn hanner nos neithiwr. Fe fu ail ffrwydriad rhyw dair awr a hanner yn ddiweddarach. Roedd 359 o weithwyr dan-ddaear ar y pryd.
Mae’r ail ffrwydriad wedi dinistrio prif shafft aer y gwaith, ac mae yna beryg o fwy o ffrwydriadau.
“Fe fydd y gwaith achub yn parhau unwaith y bydd y lle wedi sefydlogi,” meddai Aman Tuleyev, llywodraethwr rhanbarth Kemerovo.
Y gwaith
Mae’r gwaith glo’n cynhyrchu tua 8 miliwn tunnell bob blwyddyn. Mae ardal Kemerovo tua 190 milltir i’r dwyrain o ddinas Mosgow.
Y ffrwydriad
Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglyn â’r hyn achosodd y ffrwydriadau. Mae damweiniau diwydiannol a ffrwydriadau fel hyn yn digwydd yn gymharol reolaidd yn Rwsia, ac mae’r bai’n cael ei roi ar ddiffyg trefn ddiogelwch gan y cwmnïau a’r gweithwyr eu hunain.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe laddwyd naw o bobol mewn ffrwydriad mewn gwaith haearn yn rhanbarth yr Wral.