Dim ond un newid sydd yn nhîm Gleision Caerdydd ar gyfer eu gêm dyngedfennol yng Nghynghrair Magners yn erbyn Munster heno.
Fe fydd Scott Andrews yn dod i mewn i’r rheng flaen yn lle Taufa’ao Filise, sydd wedi ei anafu.
Rhaid i Gaerdydd ennill er mwyn ennill lle yn rowndiau cwpan y Cynghrair – mae’r Gweilch eisoes trwodd, ynghyd â Glasgow a Leinster.
Ond rhaid iddyn nhw hefyd atal Munster rhag cael pwynt bonws, trwy ennill o fwy na saith pwynt, a gobeithio na fydd Caeredin yn cael pwyntiau llawn yn eu gêm nhw.
Roedd y prif hyfforddwr, Dai Young, wedi dweud na fyddai’n mentro neb oedd wedi brifo, gan fod y clwb hefyd yn rownd derfynol ail gystadleuaeth Ewrop,
Cwpan Amlin
Ond fe alwodd am gefnogaeth gref yn Stadiwm Caerdydd, wrth i’r Gleision geisio parhau â’u rhediad hir heb golli.
Tan ennill 18-12 yn erbyn Connacht, roedd Munster, y pencampwyr presennol, wedi colli pum gêm.
Y sgwad
Dyma 22 Caerdydd; heblaw am yr un newid, dyma’r tîm a gurodd y Wasps yn rownd gynderfynol yr Amlin.
Olwyr: 15 Ben Blair 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Chris Czekaj 10 Ceri Sweeney 9 Darren Allinson
Blaenwyr: 8 Xavier Rush 7 Martyn Williams 6 Maama Molitika 5 Paul Tito (c) 4 Deiniol Jones 3 Scott Andrews 2 T Rhys Thomas 1 Gethin Jenkins
Eilyddion: 16 Gareth Williams 17 John Yapp 18 Bradley Davies 19 Sam Warburton 20 Lloyd Williams 21 Dai Flanagan 22 Dafydd Hewitt
Llun: Hyffordddwr Caerdydd, Dai Young