Mae rheolwr Caerdydd wedi galw ar ei chwaraewyr i “gadw’n gryf” wrth iddyn nhw wynebu Leicester City yn rownd gynta’r gemau ail gyfle heddiw.
Fe fydd tîm y brifddinas yn teithio i Stadiwm Walker yng Nghaerlŷr gydag angen i ennill tros ddau gymal er mwyn cyrraedd Wembley a gêm yn erbyn Nottingham Forest neu Blackpool.
Ddoe, fe enillodd y tîm glan môr o 2-1 gartref yn eu cymal cynta’ nhw.
Yr enillwyr yn yr un gêm derfynol yn Wembley fydd yn ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair. Dyna fyddai’r tro cynta’ i Gaerdydd fod yn yr adran ucha’ ers dechrau’r 1960au.
Lwc
Yn ôl y rheolwr, Dave Jones, y peth pwysig yw peidio â cholli nerf a gobeithio am ychydig o lwc. “Mae hynny’n wir bob wythnos,” meddai. “Y gwahaniaeth y tro yma fydd yr awyrgylch – fe fydd hwnnw’n drydanol.”
Roedd y rheolwr wedi torri ei sgwad i 20 chwaraewr wrth baratoi ar gyfer y gêm ond, fel arall, meddai, roedd wedi cadw at yr un drefn ag arfer.
Mae blaenwr yr Adar Glas, Jay Bothroyd, wedi pwysleisio eto pa mor benderfynol yw’r chwaraewyr o wneud yn dda.
“Fe fydden ni’n cicio ein hunain petaen ni’n methu’n awr, r’yn ni eisiau mynd i Wembley ac ennill,” meddai.
Y nod heddiw, yn ôl Bothroyd, yw ceisio aros yn dynn a chipio gôl neu ddwy.