Fe fydd timau trafod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyfarfod am 11 heddiw i ail-ddechrau ystyried cytundeb rhwng y ddwy blaid.
Y tebygrwydd mwya’ ar hyn o bryd yw trefniant lle bydd y Democratiaid yn helpu i sicrhau Llywodraeth Geidwadol heb fynd i glymblaid ffurfiol.
Fe fyddai hynny’n golygu bod y Ceidwadwyr a David Cameron yn derbyn rhai o ofynion polisi’r Democratiaid, a nhwthau’n addo peidio â phleidleisio’n erbyn y Llywodraeth ar faterion allweddol.
Y tebygrwydd arall, yn ôl sylwebyddion, yw y bydd trefniant o’r fath yn parhau am gyfnod penodol – tua dwy flynedd efallai – er mwyn cynnig sefydlogrwydd a gwneud yn siŵr na fydd y Ceidwadwyr yn mynd am etholiad cynnar.
Pleidleisio cyfrannol – dim cytundeb?
Dyw hi ddim yn glir a fydd y ddwy blaid yn gallu cytuno ar ddau o’r pynciau pwysica’ – Ewrop a newid y system bleidleisio; heb hynny, fe fyddai fwy neu lai’n amhosib cael aelodau cyffredin y Democratiaid i gytuno i glymblaid.
Gyda thua 1,000 o bobol yn protestio y tu allan i bencadlys y Democratiaid, yn galw arnyn nhw i beidio ag ildio tros bleidleisio cyfrannol, fe addawodd Nick Clegg ei fod yn dal i bwyso am “ddiwygio gwleidyddol”.
Mae polau piniwn heddiw’n awgrymu bod mwyafrif y bobol o blaid newid y drefn. Dyma’r gwahanol ganrannau oedd yn galw am newid – 62% yn arolwg y Sunday Times, 60% yn y Mail on Sunday, 59% yn y People a 48% yn y Telegraph.
Mewn neges i’w gefnogwyr yntau, fe ddywedodd David Cameron na fyddai’n ildio dim ar bynciau fel Ewrop.
Ddoe – symud cyflym
Ddoe, fe fu pethau’n symud yn gyflym gydag un sgwrs am fwy nag awr rhwng y ddau arweinydd, David Cameron, a Nick Clegg, yn Admiralty House.
Roedd yna sgwrs ffôn hefyd rhwng Nick Clegg a’r Prif Weinidog, Gordon Brown, sy’n aros i weld a fydd y trafodaethau’n methu gan roi cyfle iddo yntau gynnig bargen rhwng y Democratiaid a’r Blaid Lafur.
Roedd yna gyfarfod hefyd o aelodau seneddol y Democratiaid, pan ddywedwyd eu bod wedi cefnogi safiad eu harweinydd.
Fe gafodd cynnig y pleidiau cenedlaethol i gefnogi clymblaid enfys ei wfftio am y tro gan y Blaid Lafur – ymgais i gael sylw oedd hynny, meddai llefarydd.
Y cyfarfod heddiw
Yn Swyddfa’r Cabinet y bydd y cyfarfod heddiw wrth i’r pwysau gynyddu am ateb cyflym. Fe fydd y marchnadoedd arian yn ail-agor fory ac yn disgwyl newyddion pendant.
Nos yfory, mae disgwyl i David Cameron annerch ei aelodau seneddol am y tro cynta’ ers yr Etholiad.
Mae’r timau trafod yn cynnwys rhai gwleidyddion amlwg a swyddogion ar y ddwy ochr.
Ymhlith y Ceidwadwyr mae’r pennaeth polisi, Oliver Letwin, a chyn-Ysgrifennydd Cymru, William Hague. Dau o’r prif drafodwyr ar ochr y Democratiaid yw’r llefarydd cartref, Chris Huhne, a’r llefarydd ysgolion, David Laws.
Llun: Nick Clegg yn dal deiseb tros bleidleisio cyfrannol wedi protest ddoe (Gwifren PA)