Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd yn chwarae rhan mewn trafodaethau i geisio cytundeb rhyngddi a gwahanol bleidiau yn San Steffan.

Dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf bydd y Blaid a’r SNP yn trafod y gwahanol bosibiliadau o gytundebau aml-bleidiol gyda swyddogion cyswllt o’r gwasanaeth sifil yn Llundain.

“Mae gan y Blaid record gadarn o weithio efo pleidiau eraill er lles ein cenedl,” meddai ei harweinydd Ieuan Wyn Jones.

“Dyna a wnaethon ni yn 2007 wrth ffurfio clymblaid â Llafur, sy’n cael ei gydnabod yn helaeth fel llwyddiant mawr.

“Fe fyddwn ni’n awr yn gwneud yr hyn mae’r etholwyr yn disgwyl inni ei wneud ac yn edrych ar y potensial o weithio gyda phleidiau eraill yn San Steffan er mwyn sicrhau’r fargen orau i Gymru.

“Mae senedd fwy cytbwys yn gyfle gwirioneddol inni gael dull newydd o ymdrin â gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig – rhywbeth a fyddai’n cael ei groesawu gan holl genhedloedd yr ynysoedd hyn.”

‘Dewisiadau eraill’

Mae arweinydd yr SNP, Alex Salmond, yn dadlau bod dewisiadau eraill a llawer mwy blaengar na chynghrair rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Ar ddechrau ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, fe wnaeth yr SNP a Phlaid Cymru addo ymladd am y fargen orau i Gymru..

“Drwy weithio gyda’n gilydd, fe fyddwn ni’n defnyddio’n pleidleisiau a’n profiad mewn senedd gytbwys i symud yr Alban a Chymru ymlaen.

“Mae’r dybiaeth gan rai mai’r unig ddewis sydd ar gael am lywodraeth newydd i’r Deyrnas Unedig yw cytundeb rhwng y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn anghywir.

“Mae dewisiadau eraill a chanlyniadau llawer mwy blaengar ar gael petai gwleidyddion yn cael yr ewyllys i fanteisio ar y foment. Mae Plaid Cymru a’r SNP yn dangos bod gynnon ni’r ewyllys honno.”

Sefyllfa’r pleidiau

Er bod llefarydd ar ran y Blaid Lafur wedi gwrthod sylwadau Alex Salmond, roedd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, eisoes wedi mynegi gobeithion tebyg am gydweithio rhwng Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a chenedlaetholwyr Cymru a’r Alban.

Mae hyn er gwaethaf dadleuon y Torïaid mai ganddyn nhw, fel y blaid a gafodd fwy o bleidleisiau a seddau na neb arall, y mae’r hawl naturiol i geisio llywodraethu.

Fe gododd cwestiynau tebyg ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2007.

Er mai’r Blaid Lafur bryd hynny a oedd yn dadlau mai ei hawl hi, fel y blaid a gafodd y nifer mwyaf o seddau, oedd llywodraethu, fe fu ond y dim i glymblaid gael ei ffurfio rhwng Plaid Cymru, y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y tro hwn, fodd bynnag, go brin fod y rhifyddeg yn ffafriol i gytundeb rhwng Llafur a’r pleidiau llai yn San Steffan – heb sôn am unrhyw anawsterau eraill posibl o ran polisïau.

Er bod gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol 315 o Aelodau Seneddol rhyngddyn nhw o gymharu â 306 gan y Torïaid, fe fydden nhw’n dal i fod fymryn yn brin o fwyafrif llwyr yn y Senedd hyd yn oed gyda chefnogaeth rannol tri AS Plaid Cymru a 6 AS yr SNP.

Llun: Ieuan Wyn Jones ac Alex Salmond