Mae llong fferi wedi taro pier ym mhorthladd Staten Island yn Efrog Newydd, gan anafu rhai o’r teithwyr ar ei bwrdd.
Yn ôl yr heddlu a’r gwasanaethau tân mae o leiaf un teithiwr wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn y ddamwain, a 35 wedi dioddef mân anafiadau.
Mae rhai o’r teithwyr wedi cael ei cludo i ysbytai lleol, ac mae eraill wedi derbyn triniaeth gan ymladdwyr tân yn y fan a’r lle.
Dyw’r awdurdodau dddim yn sicr eto beth oedd achos y ddamwain na faint o ddifrod a achoswyd i’r llong Andrew J Barberi pan drawodd y pier wrth baratoi i lanio am 9.25 y bore yma (14.25 yn ein hamser ni).
Mae’r un llong wedi bod mewn damwain fwy difrifol o’r blaen yn 2003, pryd y cafodd 11 o deithwyr ei lladd a dwsinau eu hanafu wrth iddi daro pier yn Staten Island.
Mae’r gwasanaethau fferi’n cludo miloedd o deithwyr bob awr o’r dydd rhwng Manhattan a Staten Island.
Llun: Llong fferi’r Andrew J Barberi, a fu mewn damwain heddiw (llun ffeil AP Photo/Stuart Ramson)