Mae cwmnïau trenau’n cael eu cyhuddo heddiw o fanteisio’n annheg ar deithwyr drwy ehangu’r cyfnodau brig – sef yr adegau pan mae tocynnau yn ddrutach.

Yn ôl Bob Crow, arweinwydd undeb y gweithwyr rheilffyrdd, yr RMT, mae cwmnïau preifat yn “mygio teithwyr” er mwyn cynyddu elw.

Daw ei sylw ar ôl i’r BBC gyhoeddi arolwg fod cwmnïau trên wedi ehangu’r cyfnodau teithio oriau brig ar gyfer rhai gwasanaethau.

Golyga hyn fod prisiau tocynnau wedi cynyddu’n sylweddol, a bod pris rhai wedi dyblu neu hyd yn oed dreblu. Mae honiadau fod cwmnïau trên yn gweithredu fel hyn gan ei fod yn ffordd o gynyddu pris tocynnau heb orfod gofyn am ganiatâd y rheolydd.

‘Manteisio ar deithwyr’

Dyma’r dystiolaeth ddiweddaraf yn ôl Bob Crow, fod y cwmnïau trên yn cael eu gadael i “ecsbloetio teithwyr yn ddyddiol” wrth barhau i gael “degau o filiynau o bunnoedd mewn cymhorthdal gan y trethdalwyr”.

Ond mae’r cwmnïau trên wedi ymateb gan ddweud mai canran fechan o’r gwasanaethau sydd wedi cael eu heffeithio.

Yn ôl y cwmnïau, mae angen gosod prisiau gwahanol ar drenau prysur, neu fe fyddan nhw’n orlawn. Yn ogystal â hyn, mae’r cwmnïau’n dweud fod yna gynigion arbennig ar gael i bobol sy’n teithio yn ystod yr amseroedd prysur yma.

Yn ogystal, mae llefarydd ar ran cymdeithas y cwmnïau trên wedi dweud fod edrych ar nifer bach o brisiau tocynnau yn rhoi darlun anghymesur ynglŷn â pha mor ddrud yw hi i deithio.

Roedd cynnydd cyffredinol mewn tocynnau trên o 1.1% ym mis Ionawr meddai’r llefarydd, y cynnydd isaf ers i’r trenau gael eu preifateiddio.