Mae diffyg glaw yn bygwth y cnwd tatws ar ynys Jersey eleni.
Mae Cwmni Jersey Royal wedi dweud wrth gylchgrawn The Grocer y gallai cnwd cynta’r tymor fod 50% yn llai nag arfer, yn dilyn y sychder gwaethaf ar yr ynys ers 34 o flynyddoedd.
Dyw’r ynys ddim wedi cael llawer o law ers 3 Ebrill, ac yn ôl rhagolygon, gall fod yn bythefnos arall cyn bydd mwy yn disgyn.
Mae’r tatws, sydd fel arfer ar werth yn gynnar yn y gwanwyn, eisoes yn hwyr yn cael eu codi oherwydd gaeaf hirach nag arfer a’r rhew caled a wnaeth ddifa rhan o’r cnwd yn ddiweddar.
Mae cynrychiolwyr o’r prif archfarchnadoedd wedi ymweld â’r ynys i asesu’r effaith ar y cnwd.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr Cwmni Jersey Royal, Mike Renourd, byddai llawer o’r tatws yn cael eu codi’n arferol yn ystod y bythefnos nesaf, a byddai’r masnachwyr mawr yn dechrau hyrwyddo’r cynnyrch yr wythnos yma.
Llun: Caeau tatws ar ynys Jersey – o wefan Jersey Royal