Mae cyn-arweinydd Ukip, Nigel Farrage, wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty heddiw ar ôl damwain awyren ddiwrnod yr etholiad.

Roedd wedi dioddef anafiadau i’w asennau a’i gefn wrth i’w awyren ysgafn blymio i’r llawr ddydd Iau – pryd y cafodd y peilot hefyd ei anafu.

Wrth adael ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen, dywedodd Nigel Farage ei fod yn teimlo fel “y dyn mwyaf lwcus sy’n fyw”.

“Roedd gen i ofn llosgi i farwolaeth yn y gwrthdrawiad, ac mae’n anodd credu inni ddod allan ohoni mor lwcus,” meddai.

“Dw i am fod yn well mewn tair wythnos. Dw i’n mynd yn ôl i Frwsel i fod yn niwsans i bawb, felly dw i wedi bod yn anhygoel o lwcus.”

Yn sgil y ddamwain, methodd Nigel Farage â mynychu’r cyfrif yn etholaeth Buckingham, lle safodd dros Ukip yn erbyn llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow.

Ni fu ei ymgais etholiadol mor llwyddiannus – daeth yn drydydd gyda 8,401 o bleidleisiau, gyda John Bercow yn cadw’r sedd yn gyffyrddus gyda mwyafrif o 12,000 dros ymgeisydd annibynnol.

Llun: Nigel Farage yn gadael yr ysbyty (Sky News/Gwifren PA)