Fe fu munud o dawelwch rhwng arweinwyr y tair prif blaid y bore yma wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd i gofio diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Safodd y tri ochr yn ochr â’i gilydd yn eu siwtiau tywyll mewn gwasanaeth coffa yn Whitehall wrth i fiwglwr seinio’r Last Post gerbron cynulleidfa o gyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog.

Union 65 mlynedd i heddiw, 8 Mai 1945, y cyhoeddodd y Prif Weinidog Winston Churchill mewn darllediad radio fod yr Almaen wedi ildio ac y byddai diwrnod o wyliau i ddathlu’r fuddugoliaeth yn Ewrop.

Meddai llefarydd ar ran y trefnwyr:

“Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn dathlu llwyddiannau’r Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a’r cynghreiriaid yn y fuddugoliaeth yn erbyn ffasgaeth, ond gan dalu teyrnged hefyd i’r 580,406 o aelodau lluoedd arfog Prydain a’r Gymanwlad a’r 67,073 o boblogaeth sifil Prydain a gollodd eu bywydau yn ystod chwe blynedd hir o wrthdaro.”

Llun: Y tri arweinydd gwleidyddol Nick Clegg, David Cameron a Gordon Brown yn y gwasanaeth coffa ger y Senotaff yn Whitehall y bore yma (John Stillwell/Gwifren PA)