Mae lludw folcanig o Wlad yr Ia wedi amharu ar deithiau awyr unwaith eto heddiw, wrth i nifer o deithiau o Brydain ac Iwerddon i Sbaen, Portiwgal a Sbaen gael eu hatal.

Fe wnaeth cwmwl lludw orfodi 15 o feysydd awyr Sbaen i gau y bore yma, ac mae disgwyl iddynt fod wedi cau trwy’r dydd.

Mae disgwyl cyfyngiadau tebyg yn y gofod awyr uwchben de Ffrainc, ac mae’r cwmnïau awyrennau EasyJet a Ryanair wedi canslo cyfran helaeth o’u teithiau o’u meysydd awyr ledled Prydain.

Yn ogystal, mae awyrennau o Ewrop i America’n gorfod hedfan o amgylch cwmwl arall, uwch, o ludw folcanig sydd uwchben Môr Iwerydd ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Heathrow y gallai teithiau dros yr Iwerydd gymryd tua 10 i 15 munud yn hirach wrth orfod hedfan ymhellach i osgoi’r cwmwl.

Mae disgwyl y bydd rhagor o gyfyngiadau hedfan dros y dyddiau nesaf.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’r llosgfynydd Eyjafjallajokull yng Ngwlad yr Ia wedi gyrru rhagor o ludw i uchderau o 20,000 i 30,000 troedfedd yn ystod yr wythnos, a’r ofnau yw y gall gwyntoedd gogleddol ei chwythu i lawr i’r Alban a gweddill Prydain ddydd Llun a dydd Mawrth.