Mae’r gŵr busnes Mohammed al Fayed wedi gwerthu’r siop fyd-enwog Harrods am £1.5 biliwn.
Daeth cadarnhad heddiw mai cwmni sy’n eiddo i deulu brenhinol Qatar yn y Dwyrain Canol yw’r prynwr, sy’n addo “cynnal traddodiadau Harrods”.
Meddai Ken Costa, cadeirydd y banc buddsoddi Lazard International a fu’n cynghori’r teulu al Fayed ar y gwerthiant:
“Ar ôl 25 mlynedd fel cadeirydd Harrods, mae Mohammed al Fayed wedi penderfynu ymddeol a threulio mwy o amser gyda’i blant a’i wyrion. Mae wedi adeiladu Harrods yn frand moethus unigryw sy’n adnabyddus ledled y byd.
“Cafodd y prynwr, sef Qatar Holding, ei ddewis gan yr ymddiriedolaeth gan fod ganddyn nhw’r weledigaeth a’r arian i gynnal twf lwyddiannus Harrods yn yr hirdymor.
“Roedd o’r pwysigrwydd mwyaf i Mohammed al Fayed sicrhau perchennog newydd a fyddai’n cefnogi ymdrechion staff Harrods i gynnal traddodiadau’r siop.”
Dywedodd llefarydd ar ran Qatar Holding – awdurdod sy’n buddsoddi ar ran gwladwriaeth Qatar – y byddai Mohammed al Fayed yn aros fel cadeirydd anrhydeddus Harrods.