Gweilch 42 Y Dreigiau 10
Fe fydd y Gweilch yn cael gêm gartref yng ngemau ychwanegol Cynghrair Magners ar ôl chwalu’r Dreigiau.
Roedd gan y rhanbarth o Abertawe 15 o chwaraewyr rhyngwladol ar y dechrau tra oedd y Dreigiau heb 14 o’u chwaraewyr gorau.
Roedd yna bum cais a phwynt bonws i’r Gweilch a 22 pwynt i’r maswr, Dan Biggar, wrth iddyn nhw sicrhau’r ail le yn y gemau cynghrair – cyn mynd ymlaen i’r elfen gemau cwpan.
O’r dechrau, roedd y Gweilch yn rhoi’r bêl trwy’r dwylo ac roedd y blaenwyr yn rheoli’n llwyr. Fe gawson nhw gais cosb, yn ogystal â cheisiau gan yr wythwr, Ryan Jones, a’r prop, Ryan Bevington.
Biggar a’r asgellwr, Nikki Walker, a gafodd y lleill, gyda’r mewnwr, Wayne Evans, yn cael cais i’r Dreigiau.
Llun: Dan Biggar – 22 pwynt