Scarlets 32 Glasgow 37

Fe lwyddodd y maswr Stephen Jones i dorri record sgorio’r Scarlets, er bod y tîm o’r Gorllewin wedi colli gêm arall yng Nghynghrair Magners.

Trwy gael 22 pwynt, fe aeth Jones heibio i record sgorio Andy Hill o 2,596 pwynt tros Lanelli.

Roedd ei gyfanswm neithiwr yn cynnwys cais, wrth i’r Scarlets groesi’r llinell dair gwaith – y cefnwr Dan Evans a’r asgellwr Lee Williams a gafodd y ddau arall.

Ond roedd yna geisiau i Glasgow hefyd mwn gêm agored ac fe gafodd eu maswr nhw, Dan Parks, gyfanswm o 17 pwynt. Mae ar ei ffordd i’r Gleision y tymor nesaf.

Ef hefyd a greodd y cais tyngedfennol ar ôl i’r Scarlets fod 29-23 ar y blaen ar un adeg.