Er i Lafur gael y ganran isaf o bleidleisiau mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru ers 1918, dywed Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, fod ei blaid wedi ‘troi’r gornel’ yng Nghymru.

Dywed nad oedd wedi disgwyl y byddai Llafur yn llwyddo i ennill 26 allan o 40 o seddau Cymru – lai na blwyddyn ar ôl cael llai o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr yn etholiad Ewrop yr haf diwethaf.

“Er gwaetha’r siom o golli cydweithwyr fel Nick Ainger a Julie Morgan, y ffaith yw inni lwyddo i amddiffyn cryn nifer o seddau rhag y Torïaid, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru,” meddai.

“Ar ôl cyfres o ganlyniadau etholiadol gwael yn 2007, 2008 a 2009, dw i’n cael teimlad ein bod ni wedi troi’r gornel.”

Parhau mewn llywodraeth

Mae Peter Hain yn mynnu hefyd fod posibilrwydd y gallai Llafur barhau mewn llywodraeth, er bod ganddyn nhw 48 yn llai o seddau na’r Ceidwadwyr.

Gan ddadlau dros y syniad o gydweithrediad rhwng Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a chenedlaetholwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, meddai:

“Mae gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol floc o ASau sy’n fwy na’r Torïaid, ac mae Plaid Cymru a’r SNP, fel y Democratiaid Rhyddfrydol, yn erbyn torri £6 biliwn ar gyllid y sector cyhoeddus eleni.

“Maen nhw hefyd o blaid diwygio’r system etholiadol, cael ail siambr etholedig yn lle Tŷ’r Arglwyddi, a thymhorau seneddol sefydlog o bedair blynedd.

“Mae’r agenda diwygiadol yma’n cael ei gefnogi gan fwyafrif o bleidleiswyr ym Mhrydain, a dw i’n credu y gallai weithio. Mae’r cyfan yn dibynnu ar Nick Clegg a’i blaid.”