Mae un o’i gyn-gariadon wedi mynegi siom a chydymdeimlad ar ôl i’r cyn-AS Lembit Opik golli ei sedd ym Maldwyn.

Yn ôl Gabriela Irimia o ddeuawd pop y Cheeky Girls – perfformwyr y gân Cheeky Girls (Touch my Bun) – gwleidyddiaeth oedd ei fywyd.

“Ddylai hyn ddim fod wedi cael digwydd,” meddai’r ferch o Romania a oedd wedi dyweddïo gyda’r gwleidydd a oedd, ar un adeg, yn cael ei ystyried yn arweinydd posib i blaid y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd hi wedi mynd cyn belled ag anfon e-bost at wasanaeth newyddion y Press Association yn mynegi ei siom.

“Mae’r pleidleiswyr wedi colli dyn ymroddedig oedd yn poeni am ei etholaeth a’r bobol ynddi,” meddai. “Dyna oedd ei fywyd!

“Mae e’n showman, mae hynny’n grêt,” meddai, “Dw i mewn showbiz, showbiz yw gwleidyddiaeth.”

Y canlyniad

Doedd etholwyr Maldwyn ddim yn cytuno – fe enillodd y Ceidwadwr, Glyn Davies, gydag un o swings mwya’r etholiad, o fwy nag 13%.

Yn 2005, roedd gan Lembit Opik fwyafrif o fwy na 7,000 – y tro yma, fe gollodd o fwy na 1,000, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd amhoblogrwydd personol.
Roedd wedi cael sylw oherwydd sawl carwriaeth a cholofn yn y papur rhyw-a-gwiriondeb, y Sport.

Llun: Y dyddiau da – Lembit a Gabriela (Gwifren PA)