Mae canlyniad yr etholiad yn golygu ei bod hi’n ddyletswydd ar wleidyddion i siarad gyda’i gilydd, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Ar ei ffordd i gyfarfod aelodau blaenllaw o’i blaid yn Llundain y bore yma, dywedodd Nick Clegg fod pleidleiswyr yn haeddu “llywodraeth dda a sefydlog”, ac mai ei fwriad yw cynnal trafodaethau “adeiladol” â phleidiau eraill.

Gan ragweld y gallai’r trafodaethau ar ffurfio llywodraeth gymryd rhai dyddiau, dywedodd Nick Clegg y byddai’n dadlau dros bedair blaenoriaeth:

• trethi tecach
• newidiadau i’r system addysg i wella siawns disgyblion tlotach
• dull newydd o ymdrin â’r economi, a
• diwygio gwleidyddol “sylfaenol”.

Un her sy’n ei wynebu ar hyn o bryd yw ceisio cefnogaeth Aelodau Seneddol ei blaid i’w drafodaethau gyda’r Ceidwadwyr a allai orfodi Gordon Brown allan o Rif 10.

Dechreuodd trafodaethau rhwng y ddwy blaid neithiwr ar ôl i David Cameron wneud cynnig “mawr, agored a chynhwysfawr” i’r Democratiaid Rhyddfrydol am gydweithrediad brynhawn ddoe.

Addawodd David Cameron ymchwiliad i’r cwestiwn o ddiwygio’r system etholiadol, a dywedodd William Hague, ysgrifennydd tramor yr wrthblaid, y gallai seddau yn y cabinet gael eu cynnig yn ogystal.

Er gwaethaf hyn, disgwyl y byddai clymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn anathema i lawer o aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Awgrymodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ynni, Simon Hughes, y gallai’r trafodaethau gyda’r Ceidwadwyr gymryd cryn dipyn o amser, a rhybuddiodd na fyddai ymchwiliad yn unig i ddiwygio’r system etholiadol yn ddigon.

Gordon Brown yn dal i obeithio

Yn y cyfamser, mae Gordon Brown wedi ei gwneud hi’n glir nad yw wedi anobeithio am daro bargen gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a fyddai’n ei alluogi i barhau fel Prif Weinidog – er gwaetha’r ffaith i Lafur golli dros 90 o seddau yn yr etholiad.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n fodlon deddfu ar unwaith ar refferendwm i alluogi’r cyhoedd i ddewis pa fath o system etholiadol y maen nhw’n ei ffafrio. Eto i gyd, gallai Nick Clegg fod yn anfodlon cynnal prif weinidog amhoblogaidd.

Er y grym newydd sydd yn nwylo’i blaid, mae’r cyfarfod rhwng Nick Clegg a’i Aelodau Seneddol yn annhebyg o fod yn un gorfoleddus – er gwaethaf effeithiau ‘Cleggmania’ mae nifer yr ASau Democratiaid Rhyddfrydol bump yn llai nag oedd yn y senedd ddiwethaf.