Mae ffigwr amlwg o fewn i blaid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhybuddio y bydd rhaid i’r Ceidwadwyr wneud mwy i sicrhau cefnogaeth i glymblaid rhwng y ddwy.
Heddiw, fe fydd arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg yn ceisio cael cefnogaeth ASau’r blaid wrth iddo ddechrau trafod o ddifrif gyda’r Ceidwadwyr a David Cameron.
Mae llefarydd ynni’r Democratiaid ac yn o’i haelodau mwya’ profiadol, Simon Hughes, wedi rhybuddio bod rhaid i’r broses fod yn bwyllog, “o barch at bobol gwledydd Prydain”.
Fe ddywedodd hefyd y byddai’n rhaid i’r Ceidwadwyr gynnig mwy ym maes diwygio’r drefn bleidleisio.
Doedd cynnig David Cameron o bwyllgor ymgynghori ddim yn ddigon, meddai Simon Hughes, sy’n cynrychioli’r garfan o’r blaid a ddaeth o’r hen Ryddfrydwyr.
Mae’r sylwadau’n atgyfnerthu barn nifer o sylwebwyr mai cytundeb mwy llac, yn hytrach na chlymblaid lawn, fydd y canlyniad yn y pen draw.
Cyfarfod
Eisoes, fe fu cyfarfod awr rhwng timau trafod o’r ddwy blaid wrth iddyn nhw geisio creu llywodraeth sefydlog – roedd y Ceidwadwyr 20 sedd yn brin o wneud hynny eu hunain.
O fewn oriau i’r canlyniadau ddod yn glir, roedd David Cameron wedi gwneud cynnig “mawr, agored a chynhwysfawr” i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gyda’r marchnadoedd arian yn nerfus, mae wedi pwysleisio’r angen am greu llywodraeth sefydlog.
Roedd yn cynnig dewis o gydweithio neu o ffurfio clymblaid lawn, gan nodi ei fod yn fodlon ystyried rhai o syniadau’r Democratiaid, ond yn gwrthod rhai eraill
Y cynnig
Fe fydd David Cameron yn fodlon ystyried cynlluniau trethi’r Democratiaid ac yn nodi eu bod yn cytuno mewn meysydd fel gwlad ddi-garbon, cael gwared ar gardiau ID a rhai cynlluniau addysg.
Ond fyddai’r Ceidwadwyr, meddai, ddim yn ildio ar amddiffyn, llacio rheolau mewnfudo a dechrau’n fuan i ddatrys yr argyfwng economaidd.
Ym maes allweddol newid y drefn bleidleisio – polisi mwya’ sylfaenol y Democratiaid – yr unig gynnig oedd y pwyllgor ymchwilio i ystyried nifer o newidiadau posib.
Brn Simon Hughes
Yn ôl Simon Hughes, fe fyddai gan David Cameron ei hun broblemau pe bai’n rhaid iddo fynd ymhellach.
“Bydd rhaid aros i weld a yw’n gallu mynd â’i gabinet gydag ef,” meddai. “Mae yna rai pobol ystyfnig iawn yn y blaid Geidwadol.”
Llun: Agor y drws … David Cameron (Gwifren PA)