Gallai argyfwng ariannol Groeg daro banciau gwledydd eraill fel Prydain, Portiwgal, Sbaen ac Iwerddon.

Dyna yw’r rhybudd heddiw gan asiantaeth sy’n arbenigo mewn asesu risgiau benthyg ar y marchnadoedd arian.

Mewn adroddiad ar gyfer buddsoddwyr, dywed Moody’s Investor Service y bydd sefydliadau ariannol gwledydd eraill yn cael eu ‘heintio’ os bydd yr argyfwng yng Ngroeg yn dwysáu.

Yn ôl Moody, mae systemau bancio Portiwgal, Eidal, Sbaen a Phrydain i gyd yn wynebu sialensiau gwahanol, ond maen nhw wedi rhybuddio y gallai’r argyfwng fod yn fygythiad “real iawn” i’r banciau.

Mae banciau Sbaen, Iwerddon a Phrydain wedi bod yn fwy agored i’r dirwasgiad oherwydd lefelau uchel eu benthyciadau, ac mae hynny wedi gwanhau economi eu gwledydd yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, meddai’r asiantaeth.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd tasg anodd yn wynebu pa bynnag blaid a fydd yn rheoli Prydain o yfory ymlaen:

“Mae’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa anodd: petai’n torri’n ormodol ar wario cyhoeddus gallai dagu adferiad economaidd.

“Ar y llaw arall, pe na bai’r Llywodraeth yn tynhau digon ar wario cyhoeddus gallai’r marchnadoedd golli hyder ym Mhrydain.”