Mae Plaid Cymru wedi ymosod ar addewid gan y Prif Weinidog i warchod yr arian sy’n mynd i Ogledd Iwerddon – heb addewid tebyg i Gymru.
Fe ddatgelodd un o arweinwyr gwleidyddol y dalaith ei fod wedi derbyn llythyr gan Gordon Brown ddydd Mawrth yn addo amddiffyn y grant sy’n mynd o Lundain i Belffast.
Fe gafodd y llythyr ei gyhoeddi heddiw gan Peter Robinson, arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd yng Ngogledd Iwerddon er mwyn creu anhawster i’w wrthwynebwyr yno, ond mae hefyd yn codi dadl tros fwriadau Gordon Brown.
Mae’n cael ei gweld yn ymdrech gan yr arweinydd Llafur i gael cefnogaeth y DUP, wrth i’r Ceidwadwyr daro bargen gydag Unoliaethwyr Ulster, y blaid Brotestannaidd arall.
Yn y llythyr, mae Gordon Brown yn pwysleisio ei fod yn ymwybodol o “amgylchiadau arbennig Gogledd Iwerddon” a’i fod yn fodlon gwarchod y grant sy’n mynd iddi – rhag difrodi’r economi.
“Llwgrwobrwyo” oedd hyn, meddai arweinydd Unoliaethwyr Ulster, Syr Reg Impey.
Plaid Cymru’n ymateb
“Unwaith eto mae Llafur yn blaenoriaethu ei hanghenion cul pleidiol nhw eu hunain uwchlaw anghenion pobol Cymru,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.
“Mae’n gwbl sarhaus fod Gordon Brown wedi rhoi’r addewid yma i Ogledd Iwerddon er mwyn ennill pleidleisiau’r Unoliaethwyr – tra’i fod yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddifrifol.
“Mae pedwar adroddiad annibynnol wedi cadarnhau fod Cymru yn cael ei thangyllido o £300 miliwn y flwyddyn ond mae Llafur yn gwrthod ymrwymo i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Yn hytrach maen nhw’n bygwth torri cyllideb Cymru o £3 biliwn o bunnau rhwng nawr a 2014.”
Llun: Peter Robinson wedi cyhoeddi llythyr (Gwifren PA)