Mae’r tri dyn sy’n gobeithio meddiannu Rhif 10 Stryd Downing yfory wedi bod yn ôl yn eu hetholaethau’n pleidleisio y bore yma.
Roedd arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron wedi ymweld â gorsaf bleidleisio yn Witney yn Swydd Rhydychen i fwrw ei bleidlais.
Roedd David Cameron wedi gobeithio pleidleisio’n gynharach yn y bore ond fe fu oedi o ddwy awr ar ôl i ddau ddyn dringo ar ben to’r orsaf.
Pan ofynwyd iddo sut oedd yn teimlo, fe ymatebodd David Cameron trwy ddweud:
“Yn dda diolch, rwy’n teimlo’n dda – fe wnâi adael e ar hynny.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Mae Nick Clegg wedi disgrifio’r Etholiad Cyffredinol fel “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” am newid.
Fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod wedi cael “bore neis iawn” wrth iddo adael yr orsaf bleidleisio yn Sheffield gan ychwanegu “nid wyf yn meddwl bod fy mhleidlais yn ddirgelwch”
Ar ôl pleidleisio, fe wahoddodd Nick Clegg aelodau’r cyfryngau a oedd wedi bod yn ei ddilyn yn ôl i’w gartref etholaethol am de.
Llafur
Roedd Gordon Brown yn pleidleisio yn ei etholaeth yn Fife y bore yma wrth i filiynau o bobl gychwyn rhoi eu dedfryd ar ei gyfnod fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Roedd Gordon Brown yn pleidleisio yn etholaeth Dunfermline a Gorllewin Fife, sedd sy’n agos i’w etholaeth ei hun, sef Kirkcaldy a Cowdenbeath.
Does dim disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur gwneud unrhyw ymddangosiad cyhoeddus arall tan ei fod yn mynd i’r cyfri am ei sedd heno.