Ar ôl colli i’r Dreigiau ddwywaith y tymor hwn, mae hyfforddwr y Gweilch, Jonathan Humphreys yn dweud eu bod yn benderfynol o’u curo gartref nos yfory.
Fe fydd y Gweilch yn croesawu tîm Paul Turner i Stadiwm Liberty yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle.
Dywed Jonathan Humphreys nad canolbwyntio ar ddial y mae’r chwaraewyr, ond yn hytrach eu bod nhw’n ymwybodol o bwysigrwydd cael chwarae gartref yn y gemau ail gyfle.
“Mae pobl yn siarad am y Gweilch yn ceisio dial oherwydd ein bod ni wedi colli iddynt y tymor hwn – ond does a wnelo hyn ddim byd â dial,” meddai’r hyfforddwr.
“Sicrhau gêm adref yn y gemau ail gyfle sy’n bwysig.”
Ond mae Humphreys yn ymwybodol y bydd curo’r Dreigiau yn dasg anodd i’r Gweilch.
“Maen nhw wedi cael tymor da ac wedi gwthio’n galed am y gemau ail gyfle,” meddai.
“Rydych chi wastad yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan y Dreigiau, beth bynnag yw amgylchiadau’r gêm. Maen nhw’n dîm ymroddedig llawn angerdd a fydd yn awyddus i sicrhau perfformiad da yn y Stadiwm Liberty,” ychwanegodd.
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Tommy Bowe 13 Andrew Bishop 12 James Hook 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips.
1 Paul James 2 Huw Bennett 3 Adam Jones 4 Alun Wyn Jones 5 Jonathan Thomas 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Ryan Jones.
Eilyddion- 16 Ed Shervington 17 Ryan Bevington 18 Ian Gough 19 Filo Tiatia 20 Jamie Nutbrown 21 Gareth Owen 22 Nikki Walker.
Carfan y Dreigiau
Cefnwyr- Adam Hughes, Will Harries, Rhodri Gomer Davies, Pat Leach, Richard Fussell, Jason Tovey, Lewis Robling, Jonathan Evans, Adam Greendale, Wayne Evans, Tom Riley, Matthew Pewtner
Blaenwyr- Lewis Evans, Pat Palmer, Tim Willis, Toby Faletau, Andrew Coombs, Hoani MacDonald, Ben Castle, Rob Sidloi, Gavin Thomas, Lloyd Burns, Jevon Groves, Aaron Coundley, James Harris